Thread Links | Date Links | ||||
---|---|---|---|---|---|
Thread Prev | Thread Next | Thread Index | Date Prev | Date Next | Date Index |
Ofcom sets out position on the future of mobile markets and spectrumOfcom has today set out its future approach to mobile markets and the role of spectrum in enabling mobile internet growth, following consultation on our initial views earlier this year. Mobile internet access plays a vital role in keeping people and businesses connected wherever they live, work and travel. Competition among the four national mobile network operators (MNOs) has served the UK well as demand for mobile data has grown sharply in recent years. We expect that growth to continue, with more demand for data-hungry services and greater use of new technologies. We believe competition will continue to deliver positive outcomes. However, as new technologies develop, the way competition functions in the mobile sector could change quickly. So we will step up our work to monitor how well markets operate as they evolve. To help customers decide which mobile provider they use, we will continue our work to develop better information on network quality, including by using crowdsourced data, to encourage providers to improve the way they meet customers’ needs. We have also confirmed that our stance on any future mobile merger would be informed by the specific circumstances of that particular merger, rather than just the number of competitors. Finally, we have set out that we will consider where, and when, additional spectrum may be needed and we will take other competing uses into account in our future spectrum management decisions. Ofcom’s position on access to the upper 6 GHz band for mobileOfcom has also published an update on its current position on access to the upper 6 GHz band for mobile services. Wireless broadband traffic has grown significantly over the last decade, and we expect this to continue. The upper 6 GHz band has generated interest from industry to support this ongoing traffic growth, either by licensed mobile use or low power Wi-Fi under licence-exemption. The next World Radiocommunications Conference (WRC) in 2023 will discuss any future identification of the band. We see potential benefits for consumer benefit from either higher-power licensed mobile or from lower-power Wi-Fi of the upper 6 GHz band, but the case between the two is currently finely balanced. Based on the balance of risks and opportunities, we currently favour a “no change” outcome to the upper 6 GHz band in discussions at WRC-23, which will provide flexibility to respond to future market and industry developments. This will not preclude us from making the band available for licenced mobile use in the future. This We will consult on proposals for the future use of the band in the UK at a later date. Listen to Life Online, a new Ofcom podcast exploring themes around online safety Ofcom yn amlinellu ei safbwynt ar ddyfodol marchnadoedd a sbectrwm symudolHeddiw, mae Ofcom wedi amlinellu ei hymagwedd at farchnadoedd symudol yn y dyfodol a rôl sbectrwm wrth alluogi twf y rhyngrwyd symudol, yn sgil ymgynghoriad ar ein safbwyntiau cychwynnol yn gynharach eleni. Mae mynediad i'r rhyngrwyd symudol yn chwarae rôl hollbwysig wrth gadw pobl a busnesau'n gysylltiedig ble bynnag y maent yn byw, yn gweithio ac yn teithio. Mae cystadleuaeth ymhlith y pedwar gweithredwr rhwydwaith symudol cenedlaethol (MNO) wedi gwasanaethu'r DU yn dda wrth i'r galw am ddata symudol dyfu'n serth dros y blynyddoedd diwethaf. Disgwyliwn y bydd y twf hwnnw'n parhau, gyda mwy o alw am wasanaethau sy'n llyncu data a defnydd cynyddol o dechnolegau newydd. Credwn y bydd cystadleuaeth yn parhau i gyflwyno canlyniadau cadarnhaol. Fodd bynnag, wrth i dechnolegau newydd ddatblygu, gallai'r ffordd y mae cystadlu'n gweithio yn y sector symudol newid yn gyflym. Felly byddwn yn dwysau ein gwaith o fonitro pa mor dda y mae marchnadoedd yn gweithredu wrth iddynt esblygu. Er mwyn helpu cwsmeriaid i benderfynu pa ddarparwr symudol y byddant yn ei ddefnyddio, byddwn yn parhau â'n gwaith i ddatblygu gwell gwybodaeth am ansawdd rhwydweithiau, gan gynnwys trwy ddefnyddio data torfol, i annog darparwyr i wella'r ffordd y maent yn diwallu anghenion cwsmeriaid. Rydym hefyd wedi cadarnhau y byddai ein safbwynt ar unrhyw gyfuniad symudol posib yn y dyfodol yn cael ei gyfeirio gan amgylchiadau penodol y cyfuniad hwnnw, yn hytrach na dim ond nifer y cystadleuwyr. Yn olaf, rydym wedi nodi sut y byddwn yn ystyried ble, a phryd, y gallai fod angen sbectrwm ychwanegol a sut y byddwn yn ystyried defnyddiau cystadleuol eraill wrth i ni reoli penderfyniadau sbectrwm yn y dyfodol. Safbwynt Ofcom ar fynediad gwasanaethau symudol i'r band 6 GHz uchafMae Ofcom hefyd wedi cyhoeddi diweddariad ar ei safbwynt presennol ynghylch mynediad i'r band 6 GHz uchaf ar gyfer gwasanaethau symudol. Mae traffig band eang di-wifr wedi tyfu'n sylweddol dros y deng mlynedd diwethaf, ac rydym yn disgwyl i hyn barhau. Mae'r band 6 GHz uchaf wedi ennyn diddordeb gan ddiwydiant i gefnogi'r twf parhaus hwn mewn traffig, naill ai gan ddefnydd symudol trwyddedig neu Wi-Fi pŵer isel sy'n destun eithriad trwydded. Bydd Cynhadledd Radiogyfathrebiadau'r Byd (WRC) nesaf yn 2023 yn trafod dynodiad y band. Rydym yn gweld manteision posib i ddefnyddwyr elwa o naill ai ddarpariaeth symudol pŵer uwch a drwyddedir neu o ddefnydd Wi-Fi pŵer is o'r band 6 GHz uchaf, ond mae'r achos rhwng y ddau yn gytbwys iawn ar hyn o bryd. Yn seiliedig ar gydbwysedd risgiau a chyfleoedd, ar hyn o bryd mae Ofcom yn ffafrio deilliant "dim newid" ar gyfer y band 6 GHz uchaf mewn trafodaethau yn WRC-23, a fydd yn darparu hyblygrwydd i ymateb i ddatblygiadau'r farchnad a'r diwydiant yn y dyfodol. Ni fydd hyn yn ein hatal rhag sicrhau bod y band ar gael i'w ddefnyddio ar gyfer darpariaeth symudol a drwyddedir yn y dyfodol. Byddwn yn ymgynghori ar gynigion ar gyfer y defnydd y DU o'r band yn y dyfodol maes o law. Gwrandewch ar Bywyd Ar-lein, podlediad newydd gan Ofcom ar themâu diogelwch ar-lein Share this update: Ofcom is the independent regulator and competition authority for the UK communications industries. We have responsibilities across television, radio, video on demand, telecoms, wireless communications and postal services. News releases and other resources for journalists are available on our website. Our third-party email service stores your personal data outside the EU/UK and uses cookies to measure engagement with our email updates. Cookies help us to improve our service. See our cookies policy. You can check whether you have accepted these tracking cookies and opt out by managing your preferences. You can choose which email updates you receive by managing your preferences or you can unsubscribe from all email updates. Follow us: |
To unsubscribe from the STDS-802-11 list, click the following link: https://listserv.ieee.org/cgi-bin/wa?SUBED1=STDS-802-11&A=1